Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS
 Ysgrifennydd Gwladol Cymru

     

    


27 Tachwedd 2020

Annwyl Ysgrifennydd Gwladol

Adolygiad o Wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU – a draddodwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar 25 Tachwedd – rwy’n ysgrifennu atoch fel Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru i ofyn am ddiweddariad brys ar effaith yr adolygiad o wariant yng Nghymru.

Yn wyneb yr adolygiad o wariant a'r pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb ysgrifenedig, mae gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb arbennig mewn cael diweddariad ar y canlynol:

a)    Y sector amaethyddol– Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn ymddangos bod cynigion y Canghellor ar gyfer cyllid yn lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE yn gadael ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru £137m yn brin o’r cyllid disgwyliedig yn 2021-22.  Rydym am ddeall cyfrifiadau Llywodraeth y DU o ran mynediad at gyllid o gyllid parhaus yr UE, a sut mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael yn cymharu â'r cyllid oedd ar gael yn y blynyddoedd blaenorol.

b)    Cronfa Ffyniant Gyffredin – Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn mynd heibio i Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid o’r Gronfa Ffyniant a Rennir, a bod cyfanswm y gronfa ar gyfer y DU gyfan yn £220m yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd mae Cymru yn cael £375m o Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, felly mae'n ymddangos bod yna ddiffyg sylweddol.

c)     Y newid yn ffactor cymaroldeb y Datganiad Polisi Cyllid mewn perthynas â gwariant trafnidiaeth o 80.9% o 36.6%, yn bennaf o ganlyniad i HS2.

d)    Canlyniadau o ran cyfalaf i Gymru – Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y rhain yn isel o gymharu â chynnydd mewn buddsoddiad cyfalaf yn y DU yn ei chyfanrwydd, sef yr hyn a nodwyd yn yr Adolygiad o Wariant. Yn rhannol, mae'n debygol y bydd hyn yn gysylltiedig â HS2.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn gwahodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ddod i gyfarfod ar 7 Rhagfyr i drafod effeithiau’r adolygiad o wariant yng Nghymru, felly byddem yn ddiolchgar iawn petai eich hymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad hwn.

Yn gywir,

Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.